Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2018
Amser:
09.00 -
13.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4855
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Jenny Rathbone AC David Melding AC |
Tystion: |
David Cox, Association of Residential Letting Agents Isobel Thomson, National Approved Letting Scheme (NALS) Charlotte Burles Corbett, Royal Institution of Chartered Surveyors Douglas Haig, Residential Landlord Association Chris Norris, National Landlords Association (NLA) Liz Silversmith, Let Down in Wales Hannah Slater, Generation Rent Cerith Rhys – Jones, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC, Jack Sargeant AC a Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· David Cox, Prif Weithredwr Propertymark, aelod o’r Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl
· Isobel Thomson, Prif Weithredwr y Cynllun Gosod Eiddo Cenedlaethol Cymeradwy (NALS)
· Charlotte Burles Corbett, Rheolwr Gyfarwyddwr, Parkmans / RICS
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Douglas Haig, Is-gadeirydd a Chyfarwyddwr Cymru y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl (RLA)
· Chris Norris, Cyfarwyddwr Polisi ac Arfer y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid (NLA)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Liz Silversmith, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch, Let Down in Wales
· Cerith D. Rhys Jones, Rheolwr Materion Allanol, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
· Hannah Slater, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Generation Rent
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel.
5.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf.
5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn cysylltiad â Chymunedau yn Gyntaf.
5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â'i flaenraglen waith.
5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
5.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
5.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
5.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â diogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.